Ealing 104.8 FM
Gwasanaeth CallMe gan Vortex
Sut i ddefnyddio CallMe
Croeso i hafan CallMe, fydd yn eich cysylltu’n fyw er mwyn darlledu i’ch gorsaf radio ar ôl gwasgu un botwm.
Cyn Bwrw’r Botwm Byw
Y tro cyntaf ichi ddefnyddio CallMe, bydd neges yn ymddangos ar eich sgrin er mwyn gofyn caniatâd i ddefnyddio’r meicroffon. Os yw’n cynnig dewis rhwng gwahanol ddyfeisiadau, yna dewiswch yr un addas, a rhowch ganiatâd. Os yw’r cyfrifiadur yn cynnig dewislen, yna rhowch ganiatâd parhaol yn hytrach na dros dro.
Wrth ichi siarad i’r meicroffon gafodd ei ddewis, dylai’r lefel mewnbwn sain fod a’i uchafbwynt tua hanner ffordd ar hyd y raddfa.
Os ydych yn defnyddio Clustffonau i wrando ar sain, yna DIFFODDWCH y Botwm Diddymu Atsain (O).
Darlledu’n Fyw
Gwasgwch o botwm gwyrdd CALL ME! ar waelod y sgrin. Dylai’r botwm ddangos y geiriau CEISIO CYSYLLTU ... ac ar ôl ychydig eiliadau bydd yn newid i ddangos AR YR AWYR. Rydych nawr yn darlledu eich sain yn fyw i’r stiwdio!
Ar ddiwedd eich cyfraniad, gwasgwch y gair DADGYSYLLTU ar y sgrin er mwyn dod a’r darllediad i ben.